Ffi’r Artist:
£5,200 (am 26 diwrnod o waith am £200 y dydd, gan gynnwys holl ffioedda threuliau’r artist gan gynnwys TAW).
Cyllideb ychwanegol y prosiect:
£550 (am ddeunyddiau) (yn cynnwys TAW).
Mae Sefydliad Celf Josef Herman Cymru (SCJHC) am benodi artist cyfranogol i weithio gyda Thîm Prosiect Mining Josef Hermano 20 Hydref 2014 – 30 Mehefin 2015 i ddatblygu cyfres o weithgareddau ymgysylltu a’u rhoi ar waith, gan gynnwys 12 gweithdy pontio’r cenedlaethau i annog grwpiau ac unigolion lleol i ddefnyddio archif Tate, casgliad SCJHC, a bywyd a gwaith Josef Herman yn Ystradgynlais, i ymgysylltu â nhw, ac i greu eu hymatebion eu hunain iddynt. Bydd yr artist yn llunio agweddau creadigol y prosiect a fformat y gweithdai drwy eu harferion a’u syniadau eu hunain. Mae’r cyfle hwn yn rhan o Mining Josef Herman, prosiect partneriaeth dwy flynedd rhwng SCJHC a Tate, fel rhan o raglen ehangach o’r enw Transforming Tate Britain: Archives and Access.
Dyddiad cau ceisiadau yw hanner nos 01 Hydref 2014.
Cynhelir y cyfw eliadau ar 13 Hydref 2014.
Am gopi o Friff yr Artist a manylion am sut i gyflwyno cais, e-bostiwch: info@josefhermanfounation.org.
Lawrlwytho PDF – Mining Josef Herman – Cyfle i Artist