
Mae Sefydliad Celf Josef Herman wedi creu llwybr treftadaeth fel dathliad o fywyd a gwaith yr artist Iddewig a’r ffoadur Josef Herman, a ddaeth o hyd i hafan yn Ystradgynlais ar ôl ffoi o Warsaw yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Mae Herman yn enwog fel artist a bu’n cofnodi bywyd bob dydd y glowyr, y ffermwyr a’r gweithwyr metel a fu’n byw yma. Roedd ei gyfnod yn Ystradgynlais wedi ysbrydoli ac wedi gadael etifeddiaeth barhaol i bobl y gymuned lofaol fechan hon a oedd yn swatio yng Nghwm Tawe. Trwy’r llwybr hwn rydym yn rhannu ein casgliad o waith celf a straeon fel cyfrwng i hysbysu cenedlaethau ôl-ddiwydiannol am y dreftadaeth gyfoethog hon.

Mae’r llwybr yn dechrau yn Neuadd Les y Glowyr a oedd wrth wraidd bywyd cymunedol ar y pryd, ac sydd bellach yn gartref i’r Sefydliad a chasgliad o fwy na 150 o weithiau gwreiddiol Herman. Yna mae’r llwybr yn ymlwybro o amgylch y dref, gan basio heibio’r mannau lle bu Herman yn byw ac yn gweithio gan gyflwyno’r bobl a’r lleoedd a ysbrydolodd ei gelfyddyd, nid yn unig yn ystod y blynyddoedd pan fu Ystradgynlais yn gartref iddo, ond ar hyd ei yrfa hir, ddisglair.
Byddwn ni’n ychwanegu at y llwybr ac yn annog pobl i rannu unrhyw straeon, delweddau, cyfryngau ac effemera sydd ganddynt, sy’n ymwneud a chyfnod Herman yn Ystradgynlais, i’n helpu ni i dyfu’r archif a chadw’r dreftadaeth gyfoethog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Hygyrchedd
Mae’r Llwybr Treftadaeth yn dilyn llwybr hawdd, gwastad i gerddwyr o amgylch canol y dref, ond sylwch fod cyrraedd lleoliadau yng Nghwmgiedd a hen safle Glofa Ynyscedwyn yn cynnwys ambell fryn bach a llwybr gwledig. I’r rhai sydd ag unrhyw anawsterau wrth gerdded, gellid ymweld â Chwmgiedd mewn car, ac mae modd parcio yn agos iawn at fynedfa’r hen lofa sydd bellach yn warchodfa natur hardd.
Dilynwch y Map isod neu galwch i mewn i Neuadd Les y Glowyr yn Ystradgynlais am lyfryn y llwybr.
LLYFRYN LLWYBR TREFTADAETH
Lluniau o lyfryn y llwybr treftadaeth
Mae'r delweddau hyn yn cynnig gwybodaeth ychwanegol am y Llwybr Treftadaeth a gellir eu defnyddio mewn perthynas â'r map wrth gerdded - gallech fod wedi tynnu lluniau sgrin o'r blaen - gallech edrych ar y wefan ar eich taith gerdded neu gallech archwilio fel gwybodaeth adlewyrchol ar ôl eich taith gerdded.













