“Pontio Cenedlaethau” Diwrnod Cofio'r Holocost 2026
Ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2026 rydym wedi curadu delweddau o'n harchif, gan Josef Herman, sy'n ymateb i’r thema “Pontio Cenedlaethau” ac wedi'u cyflwyno yma ar ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, mam a phlentyn yn cael eu cario mewn siol traddodiadol Gymreig, unedau teuluol, mam yn bwydo babi.
Yn ogystal, mynychodd disgyblion Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol San Joseff y Neuadd Les yn Ystradgynlais i ymgymryd â gweithdy celf, i ddysgu am y sefydliad, yr archif ac i gerdded o amgylch Ystradgynlais yn ôl troed Herman. Dangoswyd y delweddau wedi'u curadu o’n harchif i'r cyfranogwyr ac ei hysgogi i ymateb yn weledol i'r delweddau yn eu steil eu hunain. Gwelir y delweddau hyn isod hefyd. Mae gweithio gyda'r cyfranogwyr ysgol hyn hefyd yn pontio cenedlaethau.
"Thema #DiwrnodCofio'rHolocost 2026 yw Pontio'r Cenedlaethau. Galwad i weithredu ac i'n atgoffa nad yw cyfrifoldeb cofio yn dod i ben gyda'r goroeswyr - mae'n parhau trwy eu plant, eu hwyrion a thrwy bob un ohonom."
#DiwrnodCofiorHolocost
















Diwrnod Cofio'r Holocost 2025
Gwnaeth Neuadd Les Ystradgynlais a Sefydliad Celf Josef Herman Cymru cyflwyno digwyddiad teimladwy a phryfoclyd i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost (HMD), a gynhelir yn flynyddol ar 27 Ionawr i anrhydeddu’r miliynau a ddioddefodd o dan erledigaeth y Natsïaid yn ystod yr Holocost. Mae 2025 yn coffáu 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz, y gwersyll-garchar crynhoi yn ne-orllewin Gwlad Pwyl, gan filwyr Rwsia ar 27 Ionawr 1945.
Dechreuodd y noson gyda chyflwyniad gan Sefydliad Celf Josef Herman, yn archwilio bywyd a gwaith Josef Herman, artist ffoadur enwog o Wlad Pwyl a ddaeth o hyd i gartref croesawgar yn Ystradgynlais.
Dangoswyd hefyd arddangosfa o’i weithiau.
Yn dilyn y cyflwyniad, roedd darlleniad barddoniaeth yn cysylltu hanes, celf a chofio
Daeth y digwyddiad i ben gyda dangosiad A Real Pain, ffilm newydd gyda Jesse Eisenberg a Kieran Culkin yn serennu fel cefndryd anghymharol sy’n aduno ar daith trwy Wlad Pwyl i anrhydeddu eu mam-gu annwyl. Mae’r antur yn cymryd tro pan fydd hen densiynau’r pâr yn ailymddangos yn erbyn cefndir eu hanes teuluol.
Diwrnod Cofio'r Holocost 2024
Dydd Sadwrn, 27 Ionawr, buom yn coffáu HMD24/Breuder Rhyddid mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Cafwyd dangosiad arbennig o’r ffilm The Silent Village, ffilm fer bropaganda Prydeinig o 1943 ar ffurf drama ddogfen, a wnaed gan Crown Film Unit a gyfarwyddwyd gan Humphrey Jennings.
Mae’r ffilm yn stori wir am gyflafan pentref Tsiec Lidice gan y Natsïaid. Wedi’i hailadrodd fel petai’n digwydd yng Nghymru.
Roedd yr actorion o gymunedau glofaol Cwmgïedd ac Ystradgynlais yng Nghwm Tawe.
Mae rhyddid yn fregus, gallai’r hyn a ddigwyddodd yn Lidice fod wedi digwydd mor hawdd yn un o’n pentrefi yma yng Nghymru
Diwrnod Cofio'r Holocost 2023
Roedd cynulleidfa fach yn cofio HMD2023 (roedd cyfyngiadau COVID-19 yn parhau) fe wnaethom wylio’r ffilm the Silent Village yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Ffilm fer bropaganda o Brydain ar ffurf drama ddogfen, wedi’i gwneud gan Crown Film Unit a’i cyfarwyddwyd gan Humphrey Jennings. Mae’r ffilm yn stori wir am gyflafan pentref Tsiec Lidice gan y Natsïaid. Wedi’i hailadrodd fel petai’n digwydd yng Nghymru.
Roedd yr actorion o gymunedau glofaol Cwmgïedd ac Ystradgynlais yng Nghwm Tawe.
Chwifio'r Faner Rhagfyr 2023
Chwifio'r Faner dros Hawliau Dynol!
I nodi 75 mlynedd ers y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) ddydd Sul 10 Rhagfyr 2023, gwnaeth Sefydliad Josef Herman unwaith eto chwifio'r baneri a wnaed gyda grwpiau cymunedol ond y tro hwn mae'r baneri yn chwifio yn Sardis, Ystradgynlais, cartref dyfodol newydd y Sefydliad.




Diwrnod Cofio'r Holocost 2022
Cyflwynir y ffilm fer hon gan Sefydliad Celf Josef Herman Cymru ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost 2022 ar y thema Un Diwrnod. Mae Karolina Jones yn rhannu hanes ei hen deidiau a’i hen neiniau yn ystod yr Ail Ryfel Byd yng Ngwlad Pwyl.
Yn ogystal ceir cyflwyniad i daith Karolina o Wlad Pwyl i wneud ei chartref yng Nghymru a’i pherthynas â’r iaith Gymraeg.
Karolina Jones 2022: Stories of Combatants 'Straeon Brwydwyr'