Neidio i'r prif
English 0 items£0.00

Gwaith Herman

Mae gwaith Josef Herman yn aml yn cyfleu gweithwyr fel y prif destun ac yn aml yn dogfennu ffordd o fyw nad yw gyda ni mwyach.

Llun: Herman (Dim dyddiad) Two men wearing caps facing forward (Casgliad JHAFC)

Herman (nd.) Sketch of the bus stop (Tate)

Mae gwaith Herman yn cofnodi ffordd goll o fyw sydd wedi llunio ymdeimlad o nodweddion lleol ta lle oedd yn gweithio boed yng Nghymru neu weddill y Deyrnas Gyfunol neu Ewrop. Rhwng 2004 a 2007 rhoddodd gweddw Josef Herman, Nini Herman, 194 o weithiau celf wreiddiol i’r Sefydliad. Mae’r rhodd hon yn cynnwys lluniau inc a lithograffau o waith diweddarach yn bennaf. Ers 2007, mae’r Sefydliad wedi derbyn mwy o waith, gan gynnwys paentiadau o Seland Newydd ac Israel.

Herman (1947) ‘View from the Bridge, Ystradgynlais’ (Notes from a Welsh Diary) (TATE)

 

Astudiodd Herman weithwyr fel testunau ei gelfyddyd, gan gynnwys casglwyr grawnwin, pysgotwyr ac, yn fwyaf nodedig y glowyr. Mae ei gwaith yn cyfleu glowyr, gweithwyr ffowndri, pysgotwyr a gweithwyr amaethyddol ac yn darlunio ffordd o fyw i weithwyr nad yw’n bodoli mwyach. Mae hefyd yn gofnod defnyddiol, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc sy’n byw yng Nghwm Tawe Uchaf trwy nodi tirwedd sydd wedi newid yn sylweddol.

Herman (1946) Sketch of three miners waiting for lift TATE

Wrth weithio gyda’r Tate yn 2013-15, roeddem yn gallu archwilio archif helaeth o waith Josef Herman. Ar ddiwedd y prosiect, rhoddodd y Tate, i’r Sefydliad, 20 adargraffiad o ddarluniau a wnaed tra oedd yn byw yn Ystradgynlais. Mae hyn yn wedi llenwi bwlch yn ein casgliad ac yn cynnwys yn bennaf glowyr a golygfeydd strydoedd lleol o’r 1940au a’r 1950au.

Josef Herman, Sketches of Wales | Animating the Archives 2015 (ffilm yn y Saesneg)

Mae’r fideo hwn yn archwilio’r berthynas unigryw rhwng yr artist Pwylaidd Josef Herman a thref Ystradgynlais, De Cymru yn y 1940au a’r 50au.