Cedwir ein harchif yn Neuadd Les y Glowyr yn Ystradgynlais.
Yn ogystal â chasgliad o waith Herman mae gennym hefyd lyfrau, gwybodaeth am gyfryngau, dogfennaeth etifeddiaeth am y sylfaen, gwaith gan artistiaid eraill a gan gyfranogwyr ein prosiectau ysgol.
Mae’r archif yn datblygu’n barhaus ac mae’n parhau i fod yn driw i’n pedwar brîf nod – Josef Herman ei fywyd a’i gwaith, Hawliau dynol, y celfyddydau ac Addysg.
Os hoffech ymweld â’r archif anfonwch e-bost at y sefydliad ar info@josefhermanfoundation.org

Artistiaid eraill yn ein casgliad
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys gwaith yn rhoddedig gan artistiaid eraill a oedd yn gyfoes â Herman, gan gynnwys:
Karel Lek a Joan Baker.
Mae ein casgliad yn tyfu’n gyson ac rydym yn falch o’n hymrwymiad â’r celfyddydau a’n lleoliad yn Ystradgynlais, Cwm Tawe.
Karel Lek
Ymwelodd Lek â’r Sefydliad yn 2018 lle bu’n sgwrsio a'r hanesydd celf Paul Joyner, roedd Karl Lek bron yn 90 oed ac yn adrodd hanesion sut y gwnaeth ef a’i deulu Iddewig ffoi o’r Natsïaid a chyrraedd gogledd Cymru. Yn ystod ei sgwrs gwnaeth Lek rai darluniau sydd bellach yn ein casgliad.







Gwneud Celf gydag Ysgolion
O ganlyniad i’n rhaglen helaeth o Brosiectau Ysgolion dros nifer o flynyddoedd ac yn fwy diweddar yn cydweithio â Choleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae cyfres o artistiaid preswyl wedi gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd, mae felly gennym ni gasgliad celf gan blant.
Gweithio gyda Gwasg Curwen – artistiaid preswyl
Yn ogystal â phrintiau gwreiddiol ac argraffiad cyfyngedig gan Josef Herman, mae ein casgliad hefyd yn cynnwys gwaith a wnaed mewn prosiectau artistiaid preswyl yn Wasg Curwen, un o’r stiwdios argraffu y bu Herman yn gweithio gyda nhw. Hyd yn hyn rydym wedi cael dau artist preswyl sef John Abell yn 2012 a Hilary Powell yn 2016.

John Abell Artist preswyl 2012
“Dyma ychydig o luniau o fy mhreswyliad yn y Curwen, yr unig stiwdio lithograffeg artistiaid arbenigol ym Mhrydain. Roedd yr offer yn anhygoel, roeddwn yn teimlo bod y ffordd rwyf wedi arfer argraffu yn perthyn i’r oesoedd tywyll. Technegau Barbaraidd! Roedd fy nghynorthwywyr Catherine Ade a Guy Allen yn anhygoel. Roedd Guy yn cael eu hyfforddi i fod yn argraffydd maestir, fi oedd yr artist cyntaf i weithio gydag ef ac roedd yn bleser. Yn ystod fy nau ddiwrnod olaf bûm yn gweithio gyda Mary Dalton, meistr absoliwt a chawsom gydweithrediad agos iawn. Rhaid i mi weithio gyda hi eto! Ni allwn ddod dros rannu toiled gyda lithograff Kitaj a gweld Henry Moore ar y raciau sychu.” ABELL
John Abell BlogLithograffau John Abell






Hilary Powell Farewell Rock 2016
Ail-gysylltodd y prosiect hwn â gwreiddiau Cymreig trwy ennill Preswyliad Stiwdio Sefydliad Celf Josef Hermon Cymru yn stiwdio Curwen yn Llundain sy’n arbenigo mewn lithograffeg. Y cylch gorchwyl oedd cymryd ysbrydoliaeth o waith Josef Herman… daeth ei ‘Notes from a Welsh Diary’ yn fan cychwyn i archwilio tirwedd gyfoes tra gwahanol dirywiad ac adferiad diwydiannol. Y genhadaeth oedd dod o hyd i lowyr yn arwain at daith o amgylch clybiau gweithwyr, neuaddau lles a boreau coffi CISWO (Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo), gan gwrdd â phobl y mae eu bywydau wedi’u ffurfio a’u creithio gan y tanwydd ffosil hwn.
Hilary Powell Farewell RockHilary Powell Farewell Rock 2016



