Neidio i'r prif
English 0 items£0.00

Yr hyn a wnawn

Mae'n rhaglenni yn cynnwys rhaglenni blynyddol ac amrywiaeth o brosiectau arbennig a rhai untro gyda phartneriaid cymunedol.

Ein nod

Mae Sefydliad Celf Josef Herman Cymru yn ymroddedig i hyrwyddo gwerthfawrogiad o fywyd a gwaith yr arlunydd Pwylaidd, Josef Herman ac yn ei enw ef rydym yn meithrin cyfraniad ehangach yn y celfyddydau ac ymwybyddiaeth o hawliau dynol. Gwneir hyn trwy ein prosiectau ysgolion blynyddol, arddangosfeydd, digwyddiadau, darlithoedd, ymgysylltiad cymunedol a chefnogaeth i wobr flynyddol y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Fflagiau yn Sardis

Hawliau dynol

  • Diwrnod Coffáu’r Holocost blynyddol ym mis Ionawr.
  • Digwyddiadau Wythnos Ffoaduriaid.
  • Darlithoedd hawliau dynol.
  • Rhannu bywyd Herman trwy addysg, y celfyddydau ac ymweliadau â’n harchif.
Digwyddiadau hawliau dynol

Addysg

  • Gwobr Flynyddol i Raddedigion.
  • Rhaglen ysgolion, gan gynnwys preswyliadau artistiaid, ac adnoddau ar-lein.
  • Rhaglen o ddarlithoedd i oedolion gydag ystod o ddarlithoedd rhithiol ac mewn person ar gelfyddydau a diwylliant hanesyddol a chyfoes.
  • Ymweliadau â’n harchif.
Dolenni i Adnoddau Addysgol Prosiectau Ysgolion
Abell yn Wasg Curwen 2012

Celf

  • Gwobr dewis y bobl yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol a darlithoedd.
  • Rhaglen Breswyl Artistiaid, gan gynnwys 2 breswyliad print Curwen hyd yma.
  • Arwerthiannau Celf (cynhaliwyd ein hail arwerthiant celfyddydol ac i ddathlu ein 20fed pen-blwydd yn 2023).
  • Prosiectau fideo, yn gysylltiedig â’n pedair prif thema Hawliau dynol, y celfyddydau, Josef Herman ac Addysg.
  • Rydym yn gweithio tuag at achrediad Amgueddfa.
Enillwyr Gwobr Graddedig ers 2019 Enillwyr Dewis y Bobl y Lle Celf, Eisteddfod