Neidio i'r prif
English 0 items£0.00
Zoran Kokanovic via Unsplash

Hawliau dynol

Hawliau Dynol

Ffodd Josef Herman o Wlad Pwyl cyn yr 2il Ryfel Byd a chollodd deulu a ffrindiau yn y getos. Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i gofio.

  • Diwrnod Cofio’r Holocost 27 Ionawr bob blwyddyn.
  • Digwyddiadau Wythnos Ffoaduriaid.
  • Addysg.

Sefydliad Celf Josef Herman Cymru - Diwrnod Cofio'r Holocost 2022

Thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2022 oedd ‘Un Diwrnod’ a gwnaeth Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, Ystradgynlais, cynhyrchu ffilm Un Diwrnod – Gorffennol, Presennol a Dyfodol sy’n cynnwys barddoniaeth, celf a cherddoriaeth, ac sy’n archwilio themâu o ymfudo ac am ffoaduriaid.