Mae celf yn bwysig i sylfaen Herman ac mae’n ganolog i’r hyn a wnawn.
Rydym yn:
- Rhannu celf a bywyd Josef Herman trwy arddangosfeydd a darlithoedd.
- Croesawu ymweliadau â’n harchif yn y Neuadd Les yn Ystradgynlais.
- Trefnu rhaglen ysgolion sy’n cynnwys cerdded yn ôl troed Herman yn Ystradgynlais.
- Ymweld ag ysgolion.
- Dyfarnu gwobr flynyddol i fyfyriwr sydd wedi graddio mewn Celf Gain o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Eisteddfod Genedlaethol
Dewis Y Bobl
Dewis Y Bobl yw un o wobrau blynyddol mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, sy’n annog y cyhoedd i ymgysylltu â’r gweithiau celf yn arddangosfa Y Lle Celf.
Gyda chefnogaeth Sefydliad Celf Josef Herman, dyfernir £500 i’r artist sy’n gyfrifol am greu’r darn neu’r casgliad mwyaf poblogaidd o waith. Gwahoddir y cyhoedd i edrych yn ofalus ar yr holl waith cyn nodi enw’r artist ar y papur pleidleisio.
Boed yn serameg, yn decstilau neu’n baentiadau, weithiau bydd y cyhoedd yn cytuno â’r beirniaid ac yn pleidleisio dros un o enillwyr y Medalau Aur. Troeon arall, bydd y bobl yn dewis enillydd hollol wahanol.
Enillodd Josef Herman y Fedal Aur am Gelf Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli ym 1962.
Mae ein darlithoedd yn yr Eisteddfod yn cynnwys
- Hawliau Dynol.
- Cyflwyniadau am Herman.