Neidio i'r prif
English 0 items£0.00

Partneriaeth Tate (2013-15)

Mwyngloddio Josef Herman

O 2013-15 bu Sefydliad Celf Josef Herman Cymru yn gweithio gyda Tate ar brosiect partneriaeth dwy flynedd o’r enw Mwyngloddio Josef Herman, fel rhan o brosiect mwy o’r enw Trawsnewid Tate Prydain: Archifau a Mynediad. roedd y prosiect hwn yn cynnwys ymgysylltu cymunedol, gweithio gydag ysgolion a gweithio gyda Tate a roddodd gyfle i ddehongli ein harchif a gwaith Herman.

Cafodd y prosiect etifeddiaeth hwn effaith barhaol ar y Sefydliad a meithrin perthynas waith da gyda gwahanol sefydliadau a sefydlu ein harchif fel un bwysig yn Ne Cymru.

Yn 2002 sefydlwyd Sefydliad Celf Josef Herman Cymru yn Ystradgynlais i anrhydeddu Josef Herman a’i etifeddiaeth ac i annog gwerthfawrogiad cyhoeddus o’r celfyddydau gweledol gan bobl o bob oed.

Teithiodd yr artist rhyngwladol emigré o fri Josef Herman i Brydain o Wlad Pwyl ac ymgartrefu yn Ystradgynlais rhwng 1944 a 1955. Roedd y paentiadau, y darluniau a’r printiau rhyfeddol a wnaeth Josef Herman yn ystod y cyfnod hwn yn dal bywyd y gymuned, yn fwyaf nodedig ei ddelweddau o lowyr.

Fe wnaeth Mwyngloddio Josef Herman galluogi cynulleidfaoedd newydd i ymgysylltu ag archifau digidol lleol a chenedlaethol, a chreodd gyfleoedd i aelodau’r cyhoedd weithio gydag artistiaid i wneud ymatebion creadigol eu hunain.

Trawsnewid Tate Prydain:

archifau a mynediad

Roedd Archifau a Mynediad yn rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol o fynediad digidol, dysgu a chyfranni. Roedd 52,000 o eitemau o archifau Tate ar gael yn llawn ar-lein, gan gynnwys nifer sylweddol yn ymwneud â Josef Herman. Gwnaeth hyn galluogi pobl i gael mynediad at adnoddau newydd.

Gwnaeth y deunyddiau archif a’r offer digidol hwn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer prosiectau dysgu mewn pum ardal wahanol yn y DU rhwng 2013 a 2017. Y prosiect cyntaf oedd yn Ystradgynlais, De Cymru. Yn ogystal yn bartneriaid oedd Tate Britain yn Llundain; Tate Lerpwl; Archifau ac Amgueddfeydd Tyne and Wear a Turner Contemporary, Margate.

Cefnogwyd Trawsnewid Tate Prydain: Archifau a Mynediad  gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a derbyniodd Sefydliad Celf Josef Herman Cymru gefnogaeth hefyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru