Rydym angen: Cydlynydd Prosiect ar gyfer Prosiect Llwybr Treftadaeth Josef Herman yn Ystradgynlais

Cyflwyniad

Mae Sefydliad Celf Josef Herman Cymru (SCJHC) yn elusen gofrestredig. Fe’i sefydlwyd yn 2002 i annog gwerthfawrogiad y cyhoedd o’r celfyddydau gweledol gan bobl o bob oedran, ac i anrhydeddu’r artist Josef Herman a’i etifeddiaeth. Yn 2020/21 mae SCJHC yn cychwyn ar raglen, bedwar mis, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac yn chwilio am Gydlynydd Prosiect i gydlynu’r rhaglen. Bydd Cydlynydd y Prosiect yn ymgymryd â chytundeb am wasanaethau rhwng 7 Rhagfyr 2020 a 31 Mawrth 2021.

 

Dyletswyddau a chyfrifoldebau:

Bydd y cydlynydd yn gweithio gyda’r ymddiriedolwyr i gydgasglu gwybodaeth sydd eisoes ym mharth y Sefydliad (nid prosiect ymchwil mo hwn). Amcanion y contract fydd cydlynu, rheoli a datblygu’r rhaglen ar gyfer SCJHC, gan gynnwys:

  • Cydlynu a rheoli’r prosiect
  • Gweinyddu cyffredinol y prosiect
  • Gweinyddu ariannol y prosiect.

 

Allbwn y prosiect yw cynhyrchu:

  • Llwybr treftadaeth newydd o amgylch Ystradgynlais, gan gynnwys llyfryn, arwyddion dehongli a llwybr treftadaeth mewn fformat digidol fel ap.

 

Trwy gydweithio gyda’r Ymddiriedolwyr, bydd y prosiect yn cynnwys:

  • Cydlynu, cynhyrchu ac ysgrifennu llyfryn a map llwybr treftadaeth newydd.
  • Ysgrifennu a chreu cynnwys y llwybr treftadaeth a chydlynu’r dyluniad ar gyfer arwydd(ion) dehongli ac ap.
  • Cyfathrebu ag ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a threftadaeth ac unigolion i gefnogi’r llwybr(au) treftadaeth weledol ar gyfer Ystradgynlais
  • Cefnogi’r Ymddiriedolwyr i ddatblygu rhaglen hyfforddi gyda Chasgliad y Werin Cymru ar gyfer tua 10 gwirfoddolwr wrth archifo a recordio.
  • Cydlynu gwaith gyda phartneriaid prosiect fel Elusennau Mind a Chasgliad y Werin Cymru.
  • Sicrhau bod Cadw, Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cael cydnabyddiaeth weledol da ar y safle, ar-lein ac ym mhob gweithgaredd.
  • Cefnogi’r Ymddiriedolwyr i werthuso’r prosiectau.

 

Bydd Cydlynydd y Prosiect yn cymryd cyfrifoldeb am y prosiect o ddydd i ddydd, am reolaeth ariannol y prosiect, cefnogi tasgau yn y swyddfa a chontractau dros dro a ddatblygwyd o ganlyniad i’r rhaglen ac adrodd i’r bwrdd rheoli trwy’r cadeirydd.

 

Cynigir y swydd hon ar gontract llawrydd gwerth £2,400 (yn fras i oddeutu 10 awr yr wythnos am 16 wythnos) gan gynnwys yr holl gostau, er gall fod costau ychwanegol i dalu am deithio.

 

Bydd y swydd wedi’i lleoli yn Neuadd Les, Ystradgynlais ond oherwydd rheoliadau Covid efallai bydd yn ofynnol i weithio o adre â llawer o’r gwaith yn cael ei wneud ar lein.

 

Cysylltwch â Pete Bryan ar Ffôn: 01269 824728 neu drwy e-bost info@josefhermanfoundation.org os am fwy o wybodaeth cyn ceisio am y prosiect os hoffech.

 

 

Manyleb Person

Dylai bod gan y person y sgiliau a’r galluoedd canlynol:

Hanfodol:

  • Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau
  • Gallu profedig o weithio o fewn terfynau amser tynn gydag agwedd hyblyg tuag at weithio a’r gallu i weithio ar ei liwt ei hun
  • Sgiliau TG gan gynnwys Microsoft Word ac Excel.
  • Profiad o gydlynu Zoom neu gyfarfodydd ar-lein tebyg
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn ddigidol.
  • Y gallu i weithio’n dda gyda phobl, mewn gwahanol leoliadau ffurfiol ac anffurfiol
  • Brwdfrydedd a’r gallu i feddwl ac ymateb yn bwyllog os fydd problemau’n codi, a chyfrannu at ddatrysiad.
  • Sgiliau trefnu da

 

Dymunol:

Ymhlith y sgiliau a’r galluoedd dymunol mae:

  • Diddordeb mewn celf, treftadaeth a diwylliant
  • Gallu artistig a thechnegol profedig wrth ysgrifennu, creu a datblygu prosiectau a gallu mewn pecynnau dylunio digidol (cyhoeddi desg) fel Illustrator a Photoshop neu debyg gan gynnwys archifau sain a fideo.
  • Sgiliau iaith dda yn y Gymraeg
  • Profiad o ddefnyddio cronfeydd data

 

Sut i wneud cais

Anfonwch CV a datganiad personol yn nodi sut mae’ch sgiliau a’ch profiad yn cwrdd â’r fanyleb person. Ni ddylai’r datganiad personol fod yn fwy na 1500 o eiriau . E-bostiwch y rhain at info@josefhermanfounation.org neu drwy’r post at Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, d/o Oak Villa, ger Heol Aman, Brynaman Isaf, Rhydaman SA18 1SN.

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:

Oherwydd yr amserlen hynod dynn ar gyfer y prosiect hwn, rhaid i’r contractor allu cychwyn y contract yn syth. Dylid derbyn ceisiadau sy’n manylu ar brofiad a sgiliau ac arbenigedd perthnasol erbyn dydd Gwener 27ain Tachwedd 2020 fan bellaf. Ar ôl llunio rhestr fer gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad ddydd Mercher 2 Rhagfyr yn Neuadd Les a Chymuned Glowyr Ystradgynlais, Heol Aberhonddu, Ystradgynlais, Abertawe SA9 1JJ (nodwch, oherwydd cyfyngiadau Covid, y gall hyn fod trwy Zoom).