Rhoddedig y wobr gan Sefydliad Celf Josef Herman, Ystradgynlais, i’r darn neu gasgliad o waith mwyaf poblogaidd, o blith y deunydd a ddetholwyd ar gyfer yr Arddangosfa Agored yn Y Lle Celf.
Cyflwynir y wobr gan Garry Owen BBC yn Y Lle Celf am 3.00yh, brynhawn Sadwrn, 12 Awst.
Yr enillydd eleni oedd Ruth Jên Evans, llongyfarchiadau mawr iddi hi.
Meddai Ruth:
“Rwy’n hapus iawn fy mod wedi ennill gwobr Dewis y bobl yn enwedig gan mai yn enw Josef Herman mae’r wobr. Mae hyn yn enwedig yn bwysig gan mai teitl y darn yn y Lle Celf yw Mudo a gwnaeth Herman ei hun mudo o’i gartref a dod yn ffoadur ym Mhrydain.
“Rwyf yn gobeithio gallaf ddod a’r darn i Ystradgynlais. Hefyd mae’n gyffroes iawn fod Sefydliad Celf Josef Herman wedi prynu Capel Sardis- mae hyn yn gyfle gwych i ddatblygu presenoldeb Herman yn Ystradgynlais.”
Mae dros 600 o greaduriaid clai wedi’u creu â llaw yn y gosodwaith yma sydd yn ymdrin â thema mudo/ymfudo. Mae’n codi cwestiynau am ein hymateb ni i broblem oesol o fudo. Mae’r creaduriaid yn creu teuluoedd neu lwythi. Mae’r artist yn ogystal yn cael ei ddylanwadu gan chwedloniaeth Llên Gwerin a byd natur.