Neidio i'r prif
English 0 items£0.00

Dolenni i Adnoddau Addysgol

Cip olwg ar waith a fywyd yr artist Josef Herman

Prosiect o dan arweiniad artistiaid ar gyfer plant ifanc yw hyn. Gall unrhywun wneud y prosiect yma os ydyn nhw am gael ychydig o wybodaeth a prosiectau syml

Cip olwg ar waith a fywyd yr artist Josef Herman

Atgof o'r Atgofion ac arlunio gwrthrychau.

Mae’r themâu yn y prosiect hwn yn ymdrin â cholled, marwolaeth a chofio teulu a oedd wedi marw yn y geto yn Warsaw. Cynhyrchodd Herman luniau hyfryd wrth gofio’i deulu coll. Prosiect a arweinir gan artistiaid yw hwn a gynlluniwyd ar gyfer plant ifanc ond bydd angen cymorth arnynt i ymgymryd â rhai o’r themâu.

 

Atgof o'r Atgofion ac arlunio gwrthrychau.

Edrych ar fywyd a gwaith Josef Herman ac ymateb yn greadigol i'w waith

Cynlluniwyd y prosiect celf hwn ar gyfer cyfranogwyr oed ysgol uwchradd, unrhyw un dros 11 oed.  Cwrs cyfranogol hunangyfeiried i fwynhau dysgu am Josef Herman.

Edrych ar fywyd a gwaith Josef Herman ac ymateb yn greadigol i'w waith.

Josef Herman: Perthyn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn mewn cydweithrediad â Choleg Celf Abertawe, Sefydliad Celf Josef Herman a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae’n ddefnyddiol i Addysgwyr ac yn darparu dolenni i Archif o waith Herman yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y thema Perthyn.

 

Josef Herman: Perthyn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Josef Herman - 'Joe Bach' (Saesneg)

Ffilm am gyfnod Josef Herman yn Ystradgynlais o 1944-55, yn seiliedig ar sgript a ysgrifennwyd gan Sonia Beck (Lighthouse Theatre) yn seiliedig ar gyfnodolion Josef Herman ac yn serennu Adrian Metcalfe (Lighthouse Theatre).
Mae'r ffilm hon wedi'i chomisiynu a'i hariannu gan Dîm Celfyddydau mewn Addysg Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Sefydliad Celf Josef Herman Cymru fel rhan o brosiect 'Mining Josef Herman'.

Mae 'Mining Josef Herman' yn brosiect partneriaeth dwy flynedd (2013-2015) rhwng Sefydliad Celf Josef Herman Cymru a Tate. Mae'n rhan o brosiect mwy o'r enw 'Trawsnewid Tate Prydain: Archifau a Mynediad, a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a derbyniodd Sefydliad Celf Josef Herman arian hefyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cynhyrchwyd gan Burst Productions © Josef Herman Art Foundation Cymru 2014.

The Making of 'Cynefin - Our Welcome' (Saesneg)

Mae Cynefin - Ein Croeso yn brosiect addysg ffilm gymunedol a ariennir gan Ffilm Cymru Wales, ac a gefnogir gan Michael Sheen a Sefydliad Celf Josef Herman.

Mae tîm celfyddydau cymunedol Lles Ystradgynlais wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi ymgartrefu yn Ystradgynlais, i adrodd straeon am ffoaduriaid ddoe a heddiw. Bu’r cwmni animeiddio arobryn Winding Snake Productions yn gweithio gyda’r gymuned i gynhyrchu’r ddwy ffilm animeiddiedig sy’n rhannu straeon am sut mae pobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro wedi cael croeso yn Ystradgynlais. – 2018.

Uncle Ahmed's Canaries (Saesneg)

Bu tîm celfyddydau cymunedol Neuadd Les Ystradgynlais yn gweithio gydag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi ymgartrefu yn Ystradgynlais i adrodd straeon am ffoaduriaid ddoe a heddiw.

Crëwyd Uncle Ahmed’s Canaries yn y Neuadd Les Ystradgynlais gyda theuluoedd o Syria sy'n byw yn yr ardal, ac mae’n seiliedig ar eu hanesion am symud i Gymru a gwneud eu cartref yn y Cymoedd.

Cynhyrchwyd gan Winding Snake Productions ac ariannwyd gan Ffilm Cymru Wales. 2020.

Landscape of South Wales - Mining Josef Herman film (Saesneg)

Prosiect ysgolion 2014