Ein Prosiect Ysgolion yn
Sefydliad Celf Josef Herman Cymru
NOD
Profi’r celfyddydau a hybu dealltwriaeth o gelf wreiddiol trwy ymweld ag oriel a gweithio gydag artist preswyl.
AMCANION
- Darparu profiad ‘arbennig’ a fydd yn galluogi dealltwriaeth o’r ffordd y dylanwadodd arhosiad Josef Herman yng Nghymru ar ei gwaith.
- Gweld casgliad Sefydliad Celf Josef Herman Cymru o gelf wreiddiol Herman yn Neuadd Les, Ystradgynlais ac i drafod a rhannu safbwyntiau personol.
- Hyrwyddo’r defnydd o waith celf wreiddiol ac ymateb mewn gweithgareddau megis tynnu lluniau fel ffordd o ddysgu.
- Cyflwyno termau a geirfa dechnegol briodol, sy’n benodol i gelf ac yn ymwneud â gwaith Herman.
- Profi ac arsylwi ar yr ardal a’r dirwedd a defnyddio technegau celf i ddogfennu’r hyn a welir.
- Datblygu geirfa i ddisgrifio’r defnydd o ddeunyddiau celf a’u heffeithiau trwy arbrofi mewn amrywiaeth o ffyrdd.
- Cynhyrchu gwaith celf newydd a gwreiddiol.