Neidio i'r prif
English 0 items£0.00
Fang-Wei Lin via Unsplash

Darllen a gwybodaeth Bellach

Gwelir isod darllen a gwybodaeth ehangach am Josef Herman.

Darllen Bellach (Y Rhan fwyaf yn y Saesneg)

Celf

www.tate.org.uk/art/artists/josef-herman-1276/josef-herman-sketches-wales

www.benuricollection.org.uk/intermediate.php?artistid=25

www.flowersgallery.com/artists/34-josef-herman

https://rwabristol.wordpress.com/2012/06/01/josef-herman-a-mini-exhibition-tour-part-three/

Sain

‘Mining Josef Herman’, Oral History by Catrin James
www.peoplescollection.wales/collections/833901

Ffilmiau

Josef Herman – ‘Joe Bach’
www.youtube.com/watch?v=gzpai_oenL8

Josef Herman: Sketches of Wales (Short Film) www.youtube.com/watch?v=WBNJWACE8sQ

Cynefin (Short Film)
www.peoplescollection.wales/items/994311

The Making of ‘Cynefin – Our Welcome’ (Short Film)
www.peoplescollection.wales/items/1003361

Uncle Ahmad’s Canaries (Short Film) www.peoplescollection.wales/items/993881

The Silent Village (1943)
player.bfi.org.uk/free/film/watch-the-silent-village-1943-online

Arts in Action 2016 by Sandfields Comprehensive School. The Story of Josef Herman:
www.youtube.com/watch?v=syX1o_CZGvw

Llyfrau

Herman, J. (2003) The Journals by Josef Herman, Halban Publishers (27 Feb. 2003)

Herman, J. (2002) Related Twilights: Notes from an Artist’s Diary, Seren; New edition (17 Oct. 2002)

Herman, J. (1962) Josef Herman (A Welsh Mining Village), Welsh Committee of the Arts Council of Great Britain (1 Jan. 1962)

Nini Herman (1996) Josef Herman – A Working Life, Quartet Books

Monica Bohm-Duchen (2009) The Art and Life of Josef Herman, Lund Humphries Publishers Ltd

Sarah MacDougall Rachel Dickson, Monica Bohm-Duchen, Prof Jerzy Malinowski, Nancy Schrijvers, Douglas Hall, David Herman (Author), (2011) Josef Herman – Warsaw, Brussels, Glasgow, London 1938 – 1945 (Ben Uri), Ben Uri; First Edition (1 Jan. 2011)

Fersiwn Cymraeg o’r Erthygl Yn y Western Mail Chwefror 2026 –  Josef Herman: Perthyn

Mewn addysg celf a dylunio, mae’n bwysig i’n myfyrwyr ddysgu am ystod eang o ymarferwyr celfyddydol o wahanol feysydd ac arfer amrywiol. Mae gwybodaeth am gelf yng Nghymru yn ffocws arbenigedd rwy’n ei rannu gyda myfyrwyr o bob lefel, yng Ngholeg Celf Abertawe. Un artist o’r fath yw’r artist alltud/ffoadur o Wlad Pwyl, Josef Herman a oedd yn byw yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe rhwng 1945 a 1955, daeth yn adnabyddus am ‘ei ddarluniau Mynegiadol o lowyr Cymru’ (Thomas 2024) a phobl weithiol yr ardal a gynhyrchwyd mewn ffyrdd o wneud celf nad oedd yn gyfarwydd mewn celf Gymreig yn ystod y 1950au.

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio ar adnodd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth – gan gynrychioli sefydliad Josef Herman yn Ystradgynlais, lle rwy’n ymddiriedolydd, Coleg Celf Abertawe, lle rwy’n darlithydd a chasgliad celf Herman yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Nod yr adnodd yw darparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am Herman ac i ddangos cysylltiadau â’i gelf yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Thema’r adnodd yw Perthyn ac mae cysylltiadau â gwaith Herman sy’n dangos yr ymdeimlad hwn o berthyn i le, a gafodd yng Nghymru ac yn enwedig yn Ystradgynlais, wedi’u cynnwys yn yr adnodd. Meddai Herman ‘Arhosais yma oherwydd i mi ddod o hyd i bopeth oedd ei angen arnaf. Cyrhaeddais yma’n ddieithryn am bythefnos; daeth y pythefnos yn 11 mlynedd.’ JHAFC. (2025) ac felly darganfuwyd cartref.

Ar ôl yr ail ryfel byd, datblygwyd moderniaeth ryngwladol (Thomas, 2024) yng Nghymru gan artistiaid wedi’u dadleoli o wledydd eraill, a oedd yn gorfod gadael eu cartrefi oherwydd effeithiau’r rhyfel. Artistiaid fel Josef Herman a adawodd Wlad Pwyl oherwydd yr wrth-semitiaeth gynyddol yn Warsaw ym 1935. Teithiodd ar draws Ewrop o Wlad Pwyl gan ddod o hyd i loches mewn amrywiol wledydd ar hyd y ffordd. Yn y pen draw, cyrhaeddodd Glasgow ym 1940, yma derbyniodd lythyr trwy’r Groes Goch i roi gwybod iddo fod ei deulu wedi cael eu lladd yng Ngetos Warsaw. Gwnaeth celf yn ystod y cyfnod hwn yn cofio ei fywyd yng Ngwlad Pwyl a gafodd ei arddangos yn ddiweddarach ym 1985 a datblygu’r teitl Atgof yr Atgofion. Mae’r paentiadau a’r lluniadau hyn yn dwyn i gof atgof o’i orffennol nad oedd ar gael iddo fwyach ac mae’r ymdeimlad hwn o atgof a hiraeth yn weladwy’n bwerus yn ei gelf. Er na pharhaodd Herman â’r themâu hyn, parhaodd i chwilio am lais a mynegiant gweledol yn ei waith, a daeth o hyd i hyn yng Nghymru trwy’r Glowyr a phobl weithiol Dyffryn Tawe. Daeth taith Herman trwy Ewrop ag ef i Ystradgynlais yng Nghwm Tawe lle cafodd ymdeimlad o berthyn yno a chartref. Rhoddwyd y llysenw Jo Bach iddo, roedd Herman yn ddyn byr ac roedd hyn yn therm cariadus.

Yn adnodd y Llyfrgell Genedlaethol , dangosir yr ymdeimlad o berthyn a deimlai Herman ar ôl colli popeth, mewn rhai o ffurfiau celf casgliad y llyfrgell. Gellir gweld y rhain yn yr adnodd ac maent yn cynnwys er enghraifft, teulu mewn drws lle mae’r fam yn eistedd yn dal babi yn edrych i fyny ar y tad gyda phlentyn arall yn y cefndir. Dangosir perthynas y teulu â’i gilydd yn glir yn y llun syml hwn o ben ac inc (proses boblogaidd a ddefnyddiodd Herman dro ar ôl tro). Delwedd arall yw un o lowyr ar y bws, mae un o’r glowyr yn cario babi yn y siôl Gymreig, ffordd draddodiadol o gario babanod yng Nghymru, lle mae’r babi wedi’i lapio’n dynn wrth gorff yr oedolyn gyda siôl wlân, mae’n amlwg bod y glowyr mewn sgwrs fywiog â’i gilydd. Mae paentiad arall yn dangos mam a phlentyn, thema bwysig arall i Herman, sy’n cael ei gwneud yn fwy teimladwy pan ystyriwn fod Herman wedi colli ei fam a’i frodyr a’i chwiorydd iau yn y getos. Yn y paentiad olew hwn mae Herman yn cyflwyno mam hefyd yn cario babi mewn siôl.

Pwysigrwydd Herman i Gymru yw iddo ddod yn adnabyddus am ddarlunio a phaentio’r glowyr, y gymuned gloddio glo a’i phobl, ‘Nid yw’n dweud wrthym sut olwg sydd ar Ystradgynlais a’i phobl, ond allan o’i deimladau tuag at y lle a’i phobl mae’n creu byd newydd o ffurf a siâp a lliw a thôn.’ (Wakelin, 2018). Dyma’r themâu ac arferion y parhaodd â nhw am weddill ei yrfa ar ôl gadael Ystradgynlais hyd at ei farwolaeth yn 2000. Mae ei gysylltiad â Chymru yn etifeddiaeth barhaol i Gymuned Ystradgynlais ac mae’n parhau hyd heddiw yng ngwaith Sefydliad Celf Josef Herman Cymru sy’n gofalu am archif o waith Heman sydd wedi’i lleoli yn Neuadd Les Ystradgynlais. Mae’r sefydliad yn canolbwyntio ar yr artist ac agweddau ar ei fywyd, ei gelf, hawliau dynol ac addysgu eraill. Mae’r pileri’r sefydliad yn parhau â’r cysylltiad rhwng Herman a Chymru ac yn benodol ag Ystradgynlais gan ffurfio ymdeimlad pellach o berthyn yn yr etifeddiaeth hon.

Linc i’r adnodd

JHAFC. (2025). Josef Herman – Josef Herman Foundation. [ar lein] Ar gael ar: <http://josefhermanfoundation.org/about/josef-herman/> (Cyrchwyr ar Hydref 2025).

Thomas, T. (2024) Bell and Armistead: the making of modern art in Wales. [ar lein] Ar gael ar: https://artuk.org/discover/stories/bell-and-armistead-the-making-of-modern-art-in-wales (Cyrchwyd ar: Hydref 2025).

Wakelin. P (2018) Then and now: 80 years of collecting contemporary art for Wales. [ar lein] Ar gael ar: https://artuk.org/discover/stories/then-and-now-80-years-of-collecting-contemporary-art-for-wales (Cyrchwyd ar Gorfennaf 2021