
Y Ddau Josef Herman, David Herman 2024 (Darlith)
Yn sgwrs Cyfeillion y Glynn Vivian bydd David Herman, mab yr artist Josef Herman, yn sôn am y ddau gyfnod gwahanol iawn yng ngyrfa Josef ym Mhrydain. Cyrhaeddodd Glasgow fel ffoadur yn 1940 ac yn ystod y rhyfel roedd ei waith yn bennaf yn cynnwys darluniau a phaentiadau o atgofion o fywyd Iddewig yng Ngwlad Pwyl, yr hyn a alwodd yn ‘Memory of Memories’ (Atgof yr atgofion). Yna symudodd i Ystradgynlais yn 1944 a dod o hyd i bwnc hollol wahanol: glowyr De Cymru. Nid yn unig y daeth o hyd i bwnc newydd, a wnaeth ei enw ym Mhrydain, ond hefyd daeth o hyd i balet newydd a thechneg hollol newydd, delweddau cofebion o ddynion a merched sy’n gweithio, fel arfer wedi’u gosod yn erbyn machlud gwych. Beth oedd y rheswm iddo angen dod o hyd i lais newydd? A sut y gwnaeth ail lunio ei hun fel arlunydd?
Mae’r sgwrs hon yn cyd-fynd ag arddangosfa o baneli Miners Herman 1951 yn y Glynn Vivian
Gwaith Herman ochr yn ochr ag enillwyr o Gelf Gain Gwobr Celf Sefydliad Josef Herman er cof am Carolyn Davies yng Ngholeg Celf Abertawe dan y teitl I Ble Nawr?
Roedd arddangosfa o waith Herman o’r Archif yn Neuadd Les Ystradgynlais

Artistiaid Cyfoes i Josef Herman yng Nghymru - 2015 Dr Ceri Thomas (Darlith)
Mae cysylltiadau’r artist ffoadur Iddewig Pwylaidd Josef Herman â de Cymru yn gymharol adnabyddus. Daeth i bentref glofaol Ystradgynlais ym 1944 am bythefnos ac, wedi’i swyno gan y glowyr a’r gymuned ehangach, arhosodd am un mlynedd ar ddeg. Ym 1962, enillodd y Fedal aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Ganed Herman yn Warsaw yn 1911 ac o fewn ychydig flynyddoedd i’w farwolaeth yn y flwyddyn 2000 sefydlwyd Sefydliad Celf Josef Herman Cymru yn y Neuadd Les, Ystradgynlais.
Ddwy flynedd yn ôl, aeth y Sefydliad, elusen gofrestredig, i bartneriaeth ag Oriel Tate yn Llundain. Fe’i gelwir yn ‘Mining Josef Herman’ ac un o’r mentrau yw ‘cloddio’ ei gyfoeswyr.
Am 7pm nos Wener 1af Mai, bydd Ceri Thomas yn rhoi sgwrs weledol yn y Neuadd Les, Ystradgynlais, ar rai o gyfoeswyr Herman yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys Mary Fogg (1918-2012) a aned yng Nghymru, a Will Roberts (1907-2000). Herman oedd y gwas priodas ym mhriodas Fogg yng Nghastell-nedd ym 1945 a daeth Roberts, a oedd hefyd wedi’i leoli yn y dref honno, ar draws yr arlunydd Pwylaidd yn Ystradgynlais am y tro cyntaf yn yr un flwyddyn.
Daeth y genhedlaeth hon o artistiaid, gan gynnwys Herman ei hun, yn rhan o’r hyn a elwir yn ‘Welsh environmentalism’ mewn peintio a ddechreuodd gydag artistiaid eraill cyn y rhyfel a gwnaeth ffynnu yn y cyfnod syth ar ôl y rhyfel.
Curadur, hanesydd celf ac artist yw Ceri Thomas sy’n arbenigo yn niwylliant gweledol de Cymru fodern a chyfoes. Roedd yn ymddiriedolwr Sefydliad Celf Josef Herman Cymru rhwng 2010 a 2015.

Sarah Rhys Artist Preswyl 2015
Roedd preswyliad Sarah Rhys yn brosiect ymchwil a datblygu a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bu’n archwilio Ystradgynlais a’r cyffiniau gan ymateb i’r lle a’r dirwedd trwy fapio dwfn, gan ymateb a chreu ymyriadau gyda darluniau, ysgrifau, ffotograffau a gosodiadau. Gwnaeth archwilio’r berthynas rhwng y dynol a’r dirwedd, thema oedd yn rhedeg yn gryf trwy waith Josef Herman, a’r cysyniadau o ddatgymaliad, lle, perthyn a ‘hiraeth’.
Gwnaeth y cyfnod preswyl cynnwys arddangosfa a sgwrs artist yn y Neuadd Les Ystradgynlais.