Neidio i'r prif
English 0 items£0.00

Enillwyr Gwobr Graddedig ers 2019

Rhoddir Gwobr Celf Josef Herman yn flynyddol gan Sefydliad Josef Herman er cof am Carolyn Davies, a fu farw yn 2018, i fyfyriwr sydd yn graddio mewn Celf Gain o Goleg Celf Abertawe. Roedd Carolyn yn Gadeirydd ac yn Ymddiriedolwr Sefydliad Herman, a bu’n hyrwyddo’r celfyddydau yn ardal Abertawe. Roedd y celfyddydau’n bwysig iddi, ac roedd bob amser yn gymwynasgar wrth gefnogi graddedigion, a sicrhau cyfleoedd creadigol iddynt. Roedd Carolyn yn berson ysbrydoledig, ac yn hyrwyddo’r celfyddydau pryd bynnag y byddai’n cael cyfle i wneud hynny. Ei ffocws allweddol oedd creadigrwydd a’r daith drwy’r broses artistig.

Ariennir y wobr hon gan Sefydliad Josef Herman, ynghyd â David Morris (gweddw Carolyn).

Ewan Coombs 2024 - Enillydd gwobr Celf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies

Ewan Coombs gyda’i gerfluniau ac ymddiriedolwyr yng Ngholeg Celf Abertawe.

Hannah Henson 2023 - Enillydd gwobr Celf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies

Roedd gwaith Hannah yn cynnwys lapio gwrthrychau cyffredin â phlastr ac yna tynnu’r gwrthrych. Mae breuder enfawr i’w cherfluniau.

Redhab Jafar 2022 - Enillydd gwobr Celf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies

Redhab ar y chwith gyda Jackie Hankin, Ymddiriedolwr a Sandra Morgan hefyd yn ddetholydd sy’n cynrychioli teulu Carolyn Davies.

Mae gwaith Redhab yn archwilio cof a thaith.

Owain Sparnon 2021 - Enillydd gwobr Celf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies

Mae Owain Sparnon, myfyriwr a raddiodd o Gelf Gain, Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant enillodd Gwobr Gelf Sefydliad Josef Herman 2021 er cof am Carolyn Davies.

Abigail Fraser 2020 - Enillydd gwobr Celf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies

Bu Abigail Fraser yn gweithio ar brosiectau clo gan weithio gyda delweddau neon a ffilmiau byr. Mae diwylliant a themâu Cymreig yn ganolog i waith Abigail.

Datganiad Artist

Mae gwaith celf Fraser yn archwiliad breuddwydiol, seicedelig o atgofion yn ymwneud â digwyddiadau blaenorol. Mae ei cherfluniau cyfrwng cymysg a’i gosodiadau yn ennyn ymateb i oleuni ar y synhwyrau. Yn taflunio ymdeimlad o hunan a chwilfrydedd o realiti. Wedi’i ysbrydoli gan ddyfais y ‘Tachistoscopic Lens’ gan y Peiriannydd Americanaidd Samuel Renshaw ym 1943, mae Fraser yn ymchwilio i sut mae egni golau yn ein hamgylchynu’n barhaol mewn modd personol iawn, gan chwarae rhan fawr yn ein canfyddiad. Mae’n arddangos yr atyniad cynhenid i olau a bod yn ddynol, tra’n cynhyrchu cyflwr o ddi-sail.

Yn aml yn archwilio themâu ffydd a phrofiad dynol, mae defnydd Fraser o olau mewn gofod mewnol yn mynnu am brofiad clos rhwng y gwyliwr a’i deunydd hi. Mae’n trethu terfynau trothwy gwelededd y gwyliwr a’u gorfodi i amau eu synhwyrau.

Mae gwaith Fraser yn aml yn cynnwys lluniau syml o ffurfiau a symbolau a gydnabyddir yn gyffredinol i herio’r syniad o gysur a chydymffurfiaeth, wrth ymchwilio i bosibiliadau gofodol ac amserol o ddarlunio fel cerflun. Mae darluniau Fraser yn gweithredu fel trefn o hunan-gyfaddef, a defnydd o liwiau llachar yn denu’r gwyliwr, yn mynnu sylw tra hefyd yn gweithredu fel rhybudd yn erbyn yr artist a’i gwaith. Mae ei darluniau’n aml yn ddigrif, gan greu cysylltiad rhwng synnwyr a disynnwyr, mewn dogfennaeth o gwestiynu’r artist ei hunaniaeth a’i synnwyr o berthyn.

Yn ystod pandemig Feirws Corona defnyddiodd Fraser ei arfer fel cyfrwng o ddealltwriaeth. Wrth gynhyrchu darluniau ac animeiddiadau ideolegol o gysuron cyfoes, mewn ymateb i golli ffydd mewn realiti bywyd. Trwy wneud yr animeiddiadau ar gael ar-lein yn unig, roedd Fraser yn gobeithio creu gofod amgen i fframio ein profiadau. Gorfodi cyfosodiad rhwng byd efelychiad ac efelychiad nerfus tra hefyd yn dogfennu ac yn coffáu ein profiad a rennir o’n bodolaeth.

Alison Bater 2019 - Enillydd gwobr Celf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies

Alison Bater oedd y cyntaf i dderbyn gwobr Celf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies. Wedi’i ddewis gan aelodau o Sefydliad Celf Herman.

Roedd gwaith Alison yn waith tecstilau mawr a oedd yn uno gwahanol waith gwau yn trin â chof a cholled.