Neidio i'r prif
English 0 items£0.00

Josef Herman (1911-2000)

Llun: Bernard Mitchell (1997) Josef Herman

‘Ni allaf feddwl am fyw yn unman arall ond yng Nghymru, ymhlith y Cymry yr wyf, yn fwy na neb arall, wedi colli fy nghalon iddynt.’

Herman (1947) Josef Herman [olew ar gynfas] National Portrait Gallery

Pwy Oedd Herman

Arlunydd a aned yng Ngwlad Pwyl oedd Josef Herman mae’n cael ei gofio am ei lluniau o’r gymuned lofaol Gymreig yn Ystradgynlais.

Ganed Herman yn Warsaw, ym mis Ionawr 1911, yr hynaf o dri o blant o deulu Iddewig tlawd. Buodd yn yr ysgol tan yn 12 oed, cyn dod yn brentis argraffu ac yna’n arlunydd. Mynychodd Ysgol Gelf Warsaw rhwng 1930 a 1932 ac arddangosodd am y tro cyntaf yn Warsaw ym 1932.

Oherwydd yr wrth-semitiaeth gynyddol cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd ffodd Herman o Wlad Pwyl i Wlad Belg ym 1938. Cafodd hafan fer yno nes goresgyniad y Natsïaid ar Wlad Belg ym 1940. Ynghyd â miloedd o ffoaduriaid cafodd ei hun ar y ffordd i Ffrainc ac yna ar gwch, gan gyrraedd Lerpwl ac yna Glasgow ym Mehefin 1940 lle arhosodd am bedair blynedd. Er i Herman ddianc rhag goresgyniad y Natsïaid a’r erchyllterau dilynol, collodd ei deulu cyfan yn yr Holocost.

Arddangosodd Herman yng Nglasgow, Caeredin, Cymru a Llundain a sefydlodd ei hun fel artist proffesiynol.

Llew E. Morgan 1944 "JOSEF SKETCHING UNDERGROUND""

Yr Artist

Ym 1944 ymwelodd ef a Catriona, ei wraig gyntaf, ag Ystradgynlais yng Nghwm Tawe am ymweliad byr. Gwnaeth y pentref glofaol gymaint o argraff arno a benderfynon nhw wneud cartref yno gan aros tan 1955.

“Arhosais yma oherwydd wnes i ddod o hyd i bopeth oedd ei angen arnaf. Cyrhaeddais yma yn ddieithryn am bythefnos; daeth y pythefnos yn 11 mlynedd.”

Daeth yn rhan fawr o’r gymuned leol lle cafodd y llysenw hoffus ‘Jo Bach’.

Roedd arddull artistig Herman yn feiddgar ac yn nodedig a chafodd lawer o ysbrydoliaeth o’r gymuned lofaol Gymreig a’r gweithwyr yn fwyaf nodedig oedd y glowyr, mae’n dal i gael ei chofio am y delweddau yma.

Llun Bernard Mitchell 1997

Gyrfa a Bywyd Hŷn

Gwnaeth ei enw yn y 1940au a’r 1950au gan beintio glowyr Cymreig, delweddau pwerus o wŷr gweithiol a’u gwragedd, a sefydlodd ei enw hun fel un o brif arlunwyr ffigurol Prydain yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.

Ym 1951 fe’i comisiynwyd i gynhyrchu murlun ar gyfer Gŵyl Prydain. Sefydlodd hyn ei enw da fel artist yn y DU.

Daeth ei briodas ef a Catriona i ben yng nghanol y Pumdegau. Gadawodd Ystradgynlais yn 1955 a sefydlu cartref yng Ngorllewin Llundain. Cyfarfu â Nini Ettinger ac fe briodon nhw yn ddiweddarach. Yn 1962 enillodd Wobr Aur gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli.

Teithiodd Herman yn eang i Ffrainc, Sbaen, Groeg, Mecsico ac Israel, ac, fel yng Nghymru, ei brif fwriad bob amser oedd arsylwi a mynegi trwy ei gelf gweithwyr wrth eu llafur ac yn gorffwys. Mae ei waith i’w weld mewn prif gasgliadau orielau ac amgueddfeydd ledled y byd.

Ym 1981, dyfarnwyd OBE i Herman am wasanaethau i Gelf Brydeinig ac fe’i hetholwyd i Academi Frenhinol y Celfyddydau ym 1990.

Bu farw ym mis Chwefror 2000.

Ruth Richards (2024) Jo Bach o Ystradgynlais o Catalog Roger Jones