
Llwybr Treftadaeth Natur
Ail lwybr cerdded a ddatblygwyd gan Sefydliad Celf Josef Herman yw Llwybr Treftadaeth Natur, sy’n ategiad at ein Llwybr Treftadaeth yr artist Josef Herman yn Ystradgynlais a lansiwyd yn 2021. Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy UK Community Renewal Fund. Hoffem ddiolch hefyd i Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo am eu cefnogaeth hael i’r prosiect hwn, a hefyd cyrff a phartneriaid eraill gan gynnwys Cyfeillion Parc Diemwnt.
Gwelir amlinelliad o’r llwybr mewn map isod, byddwch yn ymwybodol bod rhai o’r ardaloedd yn anodd eu cyrraedd i bobl â symudedd cyfyngiadau.
Am y Llwybr
Crëwyd y llwybr hwn gan Sefydliad Celf Josef Herman fel dathliad o dreftadaeth ddiwydiannol, hanes naturiol y pentref a’r ardal o gwmpas Ystradgynlais. Mae’n ardal sy’n gyfoethog ag arwyddocâd diwydiannol o ddiwydiant trwm yr ardal hon yn Ne Cymru a oedd mor bwysig yn ystod chwyldro diwydiannol y 18fed a’r 19eg Ganrif, ac oedd yn parhau i fod o bwysigrwydd cenedlaethol yn ystod cyfnod Josef Herman yn y pentref.
Arlunydd émigré Iddewig oedd Josef Herman, a gafodd noddfa yn Ystradgynlais ar ôl ffoi o Warsaw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae Herman yn enwog fel arlunydd a oedd yn dogfennu bywyd bob dydd y glowyr, gweithwyr fferm a gweithwyr eraill oedd yn byw yma. Ysbrydolodd ei gyfnod yn Ystradgynlais a gadael etifeddiaeth barhaol ar bobl a diwylliant y gymuned lofaol fechan hon yng nghwm Tawe Uchaf. Drwy’r llwybr hwn rhannwn rhai o’r lleoliadau roedd Josef yn gyfarwydd â nhw a’n bwriad yw bod y llwybr yn helpu i lywio cenedlaethau ôl-ddiwydiannol o’r dreftadaeth gyfoethog hon.
Mae’r llwybr yn dechrau yng nghanol Ystradgynlais, ym Mharc yr Orsedd a safle Eisteddfod Genedlaethol 1954, gan fynd ymlaen heibio Eglwys Sant Cynog, Caffi Cameleon a Bryn y Peiriant cyn mynd i mewn i Barc Diemwnt a mynd ymlaen i warchodfeydd natur Wern Plemys ac Ystradfawr. Mae rhannau o’r llwybr hefyd yn dilyn llinellau’r hen reilffordd a’r orsaf. Byddai pob ardal wedi bodyn gyfarwydd i Herman, ond mae’r amgylchedd wedi newid yn fawr ers ei gyfnod ef yn y pentref.
Hygyrchedd
Er bod mynediad gweddol o dda i fwyafrif o lwybrau Parc Diemwnt, mae rhai o’r llwybrau sy’n arwain at neu yn ardaloedd y gwarchodfeydd natur fod ar oleddf serth, mae yna risiau mewn mannau ac yn aml maent o dan ddŵr ac felly gall pobl sydd â symudedd cyfyngedig neu ddefnyddiwr cadair olwyn ei chael hi’n anodd cael mendiant rhwydd.
Cynllunio eich ymweliad
Dyma Ni: Neuadd Les, Ystradgynlais, Heol Aberhonddu, Ystradgynlais, Abertawe, Powys, SA9 1JJ.
Ffôn: 01639 843163
Parcio: Mae dau brif faes parcio yn Ystradgynlais, y ddau ohonynt yn rhai arhosiad hir, talu ac arddangos:
Heol Eglwys – SA9 1EY
Heol Maes-Y-Dre – SA9 1JH
Nifer cyfyngedig o leoedd parcio sydd ger mynedfeydd y gwarchodfeydd natur ac mae’r rhain wedi’u nodi ar fap y llwybr gydag eiconau ‘P’.
Trafnidiaeth gyhoeddus: Yr orsaf drenau agosaf yw Gorsaf Castell-nedd. Mae gwasanaeth bws o Gastell-nedd ac Abertawe i Ystradgynlais.
Toiledau: Mae toiledau cyhoeddus ar Heol yr Orsaf, Ystradgynlais, SA9 1NT.
Lluniaeth: Mae sawl caffi ar hyd Heol yr Orsaf a Stryd Fasnachol yn Ystradgynlais
Llety: Mae amrywiaeth o leoedd i aros dros nos yn Ystradgynlais a’r cyffiniau, gan gynnwys gwestai, Gwely a Brecwast, hunanarlwyo a meysydd gwersylla. Ewch i www.airbnbn.co.uk neu www.booking.com

Llwybr Treftadaeth Natur
Defnyddiwch y wybodaeth yma i ddilyn y llwybr ar eich pen eich hun.











