Rhoddedig y wobr gan Sefydliad Celf Josef Herman, Ystradgynlais, i’r darn neu gasgliad o waith mwyaf poblogaidd, o blith y deunydd a ddetholwyd ar gyfer yr Arddangosfa Agored yn Y Lle Celf.
Cyflwynir y wobr gan Garry Owen BBC yn Y Lle Celf am 3.00yh, brynhawn Sadwrn, 12 Awst.
Yr enillydd eleni oedd Ruth Jên Evans, llongyfarchiadau mawr iddi hi.
Meddai Ruth:
“Rwy’n hapus iawn fy mod wedi ennill gwobr Dewis y bobl yn enwedig gan mai yn enw Josef Herman mae’r wobr. Mae hyn yn enwedig yn bwysig gan mai teitl y darn yn y Lle Celf yw Mudo a gwnaeth Herman ei hun mudo o’i gartref a dod yn ffoadur ym Mhrydain.
“Rwyf yn gobeithio gallaf ddod a’r darn i Ystradgynlais. Hefyd mae’n gyffroes iawn fod Sefydliad Celf Josef Herman wedi prynu Capel Sardis- mae hyn yn gyfle gwych i ddatblygu presenoldeb Herman yn Ystradgynlais.”
Mae dros 600 o greaduriaid clai wedi’u creu â llaw yn y gosodwaith yma sydd yn ymdrin â thema mudo/ymfudo. Mae’n codi cwestiynau am ein hymateb ni i broblem oesol o fudo. Mae’r creaduriaid yn creu teuluoedd neu lwythi. Mae’r artist yn ogystal yn cael ei ddylanwadu gan chwedloniaeth Llên Gwerin a byd natur.
Eisteddfod 2024 Dewis y Bobl enillydd Anthony Evans
Enillydd Gwobr Gelf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies 2025 Athinwolf (Athena Usluer)
Enillydd gwobr Celf Josef Herman er Cof am Carolyn Davies 2024 Ewan Coombs