Neidio i'r prif
English 0 items£0.00

Sardis

Yn ogystal â'n Newyddion Sardis, byddwn yn rhannu diweddariadau am Brosiect Sardis yma. Mae'r prosiect hwn yn eithaf arwyddocaol a bydd yn cymryd peth amser i'w gwblhau. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r prosiect datblygu.

Newyddion Sardis

Capel Sardis yw cartref newydd Sefydliad Josef Herman yn Ystradgynlais.

Yn gynnar yn 2023, diolch i gefnogaeth hael, nawdd ac anogaeth gan lawer, llwyddodd y Sefydliad i brynu’r Sardis adfeiliedig ar y pryd ar Heol Giedd yn Ystradgynlais, sydd wedi’i leoli drws nesaf i Dafarn Penybont lle bu Herman yn byw ar un adeg.

Adeiladwyd Sardis ym 1861 i gymryd lle’r capel gwreiddiol ar Stryd Oddfellow, a oedd wedi dioddef difrod difrifol ym 1859 pan ddymchwelodd y siafftiau mwynglawdd oddi tano.

Cynlluniwyd y capel newydd gan y Parchedig Thomas Thomas, a adnabyddir hefyd fel Thomas Glandŵr, gweinidog a phensaer capeli, a’i adeiladu gan Thomas Morgans o Gwmgiedd. Cafodd y Capel ei ddefnyddio’n barhaus am 152 o flynyddoedd tan 2013 pan gafodd ei werthu. Mae wedi parhau yn wag ers hynny.

Ein bwriad yw achub y tirnod cymunedol hwn a rhoi bywyd newydd iddo.

Ein gweledigaeth yw creu oriel ac archif ar gyfer ein casgliad presennol o waith Josef Herman ac artistiaid eraill, i fod yn ganolbwynt treftadaeth gymunedol a llawer mwy.

Troi capel yng Nghwm Tawe yn oriel i artist Iddewig

Garry Owen 2023 BBC Cymru Fyw

Sardis gan Llew E Morgan
Sardis Teddiw 2025
Braslun o Sardis gan Stephen Roe

Braslun gan Stephen Roe (tudalen FB Swansea Valley in Pictures) o Sardis ar ôl i JHF ei brynu ac mae’n dangos y sgaffaldiau ar y blaen.

Gwybodaeth hanesyddol ddiddorol am Sardis ar gael ar y Wefan Saesneg hon

i gynnwys:

  • Hanes Capel Sardis
  • Yr Ardal Leol
  • Gweinidogion Sardis
  • Pobl Sardis
  • Mynwent Sardis
  • Elfennau Pensaernïol
  • Canu Yn Sardis
  • Ysgoldy Fach
  • Canmlwyddiant Capel Sardis
  • Golygfeydd o Sardis
History of Sardis Chapel, Ystradgynlais (in English) Capel Sardis, Ystradgynlais, gan Mrs. Ann Soroka Mae Llyfrgell Ystradgynlais

Gwybodaeth hanesyddol

Adeiladwyd Capel yr Annibynwyr Sardis ym 1832, a’i ailadeiladu ym 1841 ac eto ym 1861. Cynlluniwyd y capel presennol, 0 1861, gan y pensaer Thomas Thomas o Landŵr a’i adeiladu (ar gost o £1600) yn yr arddull Glasurol gyda chynllun bocs talcennog a ffenestri pen crwn uchel. Estynnwyd hyn yn 1887.

RCAHMW, Mehefin 2011
o Coflein

Capel Sardis 1914-18