Unwaith eto “Newyddion da a ddaeth i’n Bro” oherwydd bod Sefydliad Josef Herman Cymru, sydd â’i ganolfan yn Ystradgynlais, yn cyfranogi yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni eto. Cynhelir yr Eisteddfod ym Meifod, Canolbarth Cymru. Mae’r Sefydliad wedi cyfranogi bob blwyddyn ers 2008 gan gynnig gwobr o £500 i enillydd y gystadleuaeth “Dewis y Bobl” ym mhabell Celf a Chrefft yr Eisteddfod. Mae hanes diddorol tu hwnt i bob enillydd a phleserus iawn yw, i ni fel ymddiriedolwyr, gefnogi arlunwyr ifanc.