Unwaith eto “Newyddion da a ddaeth i’n Bro” oherwydd bod Sefydliad Josef Herman Cymru, sydd â’i ganolfan yn Ystradgynlais, yn cyfranogi yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni eto. Mae’r Sefydliad wedi cyfranogi bob blwyddyn ers 2008 gan gynnig gwobr o £500 i enillydd y gystadleuaeth “Dewis y Bobl” ym mhabell Y Lle Celf yr Eisteddfod. Mae hanes diddorol tu hwnt i bob enillydd a phleserus iawn yw, i ni fel ymddiriedolwyr, gefnogi arlunwyr.

Dewis y Bobl



















Dewis y bobl 2015
Cyhoeddodd Mererid Hopwood mai Menna Angharad sydd wedi ennill Gwobr Josef Herman Dewis Y Bobl yn Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2015.
Mae’r disgrifiad o waith Menna Angharad yn y Lle Celf yn dweud ei bod yn creu ‘portreadau eiconig o wrthrychau digon cyffredin’.
Yn ail roedd Jason Chart Davies am ei emwaith papur ac arian, ac yn drydydd roedd ffotograffydd dewi Glyn Jones.
Rhoddwyd Mererid teyrnged i’r diweddar artist a noddwr Sefydliad Josef Herman, Osi Rhys Osmond wrth wneud y cyhoeddiad yn y Lle Celf ar y maes yn Meifod.